Cwestiynau Cyffredin

Ar agor ar gyfer ceisiadau

Cwestiynau am y Gronfa Buddsoddi i Gymru

Bydd y Gronfa Buddsoddi i Gymru yn ymrwymo £130m o gyllid newydd trwy’r strategaethau buddsoddi gorau i fodloni anghenion busnesau yng Nghymru. Nod IFW yw gyrru twf economaidd trwy gynorthwyo arloesedd a chreu cyfleoedd lleol ar gyfer busnesau newydd ac sydd ar dwf ar draws Cymru. Bydd IFW yn cynyddu’r cyflenwad a’r amrywiaeth o gyllid cyfnod cynnar sydd ar gael i fusnesau llai ar draws Cymru, gan ddarparu cyllid ar gyfer busnesau na fyddai’n derbyn buddsoddiad fel arall o bosibl, ac yn helpu i chwalu’r rhwystrau i gael cyllid.

Dyluniwyd IFW i helpu i lenwi’r bylchau yn y farchnad trwy gynyddu’r cyflenwad o gyllid cyfnod cynnar sydd ar gael ar gyfer busnesau llai yn y DU a’u hamrywiaeth, gan ddarparu cyllid ar gyfer cwmnïau na fyddai’n derbyn buddsoddiad fel arall o bosibl. Mae’r cronfeydd cynnyrch y mae IFW yn eu cynorthwyo yn darparu cyllid â ffocws masnachol ar gyfer busnesau ar draws Cymru.

Mae IFW yn cwmpasu Cymru gyfan, gan gynnwys ardaloedd gwledig, arfordirol a threfol. Gellir buddsoddi mewn busnesau sydd â’u pencadlys yng Nghymru neu sydd â phresenoldeb gweithredol sylweddol yno.

Gall cronfeydd cynnyrch IFW fuddsoddi ar eu pennau eu hunain neu ochr yn ochr ag arianwyr eraill, ac yn wir, anogir rheolwyr cronfeydd IFW i drosoli cyfalaf preifat ychwanegol hefyd.

Bydd IFW yn cynnig tri opsiwn cyllid masnachol sef Benthyciadau Llai o rhwng £25k a £100k, gwerth rhwng £100k a £2m o Gyllid i Ariannu Dyledion, a Chyllid Ecwiti o hyd at £5 miliwn.

Bydd gan IFW ddull cynhwysol o weithredu, ond bydd yna rai meini prawf cymhwyster ar gyfer cyllid IFW. Bydd rheolwyr y cronfeydd yn gallu cynghori ar addasrwydd.

Nid yw IFW yn buddsoddi mewn busnesau yn uniongyrchol. Mae’n buddsoddi trwy gronfeydd cynnyrch sy’n cael eu rheoli gan reolwyr cronfeydd penodol IFW. Bydd y Gronfa’n cynnig tri opsiwn cyllid masnachol gyda Benthyciadau Llai rhwng £25k a £100k, gwerth rhwng £100k a £2 filiwn o Gyllid i Ariannu Dyledion, a Buddsoddiad Ecwiti o hyd at £5 miliwn.

Dylid cyflwyno ymholiadau a cheisiadau yn uniongyrchol i reolwyr cronfeydd dethol IFW, ac mae manylion llawn y rhain i’w gweld yma. Ni all IFW ddarparu cyngor ariannol neu fusnes i fusnesau sy’n chwilio am gyllid, a dylai busnesau ddefnyddio eu cyfrifydd neu gynghorydd busnes eu hunain os oes angen cymorth arnynt wrth baratoi’r cais.

Cofrestru ar gyfer ein Newyddlen

Cofrestrwch i dderbyn ein negeseuon e-bost i fod gyda’r cyntaf i glywed y newyddion diweddaraf am y Gronfa Buddsoddi i Gymru. Cewch ddewis clywed y newyddion am eich ardal neu gael diweddariadau o bob rhan o’r DU.

Cofrestrwch heddiw